CRAIG-Y-NOS, ABERTAWE


Rydym wrth ein bodd i ehangu’n gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion er
mwyn cynnwys De Powys ac ardal Abertawe. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os oes
diddordeb gennych mewn ymuno â ni fan hyn yn y parc neu os hoffech gyfeirio eraill atom.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau a dosbarthiadau yn ein gardd therapiwtig o fewn
Parc Gweledig Craig y Nos, SA9 1GL gweler yr hyn sydd ar gael, isod.

Gallwch hefyd gadw golwg ar y dudalen hon neu ymuno â’n cylchlythyr er mwyn derbyn
diweddariadau cyson ynghylch rhaglennu newydd a chynlluniau ar gyfer gweithdai.
Gallwn ddarparu cefnogaeth grŵp a chefnogaeth 1 i 1 ar hyd De Powys ac ardal Abertawe
mewn ysgolion, colegau, cartrefi gofal, canolfannau cefnogol a, lle fo’n addas, yn eich
cartref eich hun. Os ydych yn rhan o gymuned addysg yn y cartref gallwn ddod â sesiynau
grŵp atoch chi hefyd.

RHAGLEN FLYNYDDOL YR ARDD

Ym mhle: Parc Gwledig Craig-y-Nos – Yr Ardd Lysiau, Pen-y-Cae, Craig-y-Nos, Abertawe,
SA9 1GL
Pryd: Bob dydd Gwener 9:30 – 11:30yb

Fel rhan o’n rhaglen grŵp, rydym yn cynnig y cyfle i fynychu ein sesiynau garddio
therapiwtig am hyd at flwyddyn gydag Annabelle, mae hi’n therapydd hyfforddedig.
Byddwn yn darparu’r holl bethau sylfaenol fydd eu hangen arnoch, yn cynnwys offer a
hadau er mwyn i chi allu cychwyn arni.

Ein nod yn ystod y sesiynau yw rhoi amser ymroddedig i chi, parch cadarnhaol diamod,
uniongyrchedd, gofod i chi gael eich clywed, ac i chi deimlo eich bod yn cael cefnogaeth; a
hyn oll tra eich bod chi’n dysgu sut i dyfu eich bwyd eich hun a sgiliau bywyd eraill.

Cost: £0 gydag atgyfeiriad gan Feddyg Teulu, gweithiwr cymdeithasol neu seiciatrydd.
Rydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau fel y cyswllt cyntaf, ond bydd angen atgyfeiriad
proffesiynol yn dilyn eich ymweliad cyntaf.

MEINI PRAWF AR GYFER ATGYFEIRIADAU

  • Diagnosis iechyd meddwl o fewn Clystyrau Gofal 0 – 3
  • Oedolyn 18-65 oed
  • Trigolyn lleol
  • Mae gan y defnyddiwr gwasanaeth nodau adfer unigol a chymhelliant i gymryd rhan.
  • Mae gan Ddefnyddiwr y gwasanaeth y gallu i ymgysylltu â rhaglen adfer sy’n cynnwys cymryd
    rhan mewn adolygiadau, gosod nodau, gweithgaredd galwedigaethol a rhyngweithio
    cymdeithasol.


Os hoffech ddarganfod rhagor neu os hoffech ymweld yn gyntaf, yna cysylltwch â ni drwy
e-bost neu drwy’r ffurflen gyswllt.


CEFNOGAETH A THERAPI GARDDWROL 1 i 1

A fyddai sesiwn 1 i 1 yn well gennych lle gallwn weithio gyda’n gilydd i dyfu planhigion
prydferth ac archwilio eich meddyliau a’ch ymdrechion personol chi? Efallai eich bod chi’n
teimlo eich bod ar fin colli eich hun fel unigolyn, neu’n ymrafael a meddyliau anodd a
negyddol neu’n teimlo eich hyder yn gostwng.

Byddwn yn gwneud cymysgedd o arddio ymarferol a gweithgareddau llesiant sy’n addas i
chi. Bydd y cyfan oll wedi ei gynllunio er mwyn eich helpu chi i ddeall eich meddyliau,
tawelu eich meddwl a rhoi’r modd i chi glirio eich pen, cynyddu eich hyder a dysgu sgiliau
newydd.

Byddwn yn trefnu diwrnod ac amser penodol bob wythnos ar adeg fydd yn addas i chi.
Does dim angen unrhyw offer arnoch… dim ond eich bod chi’n benderfynol o wella eich
bywyd ac i deimlo’n well.

Ym mhle: Parc Gwledig Craig-y-Nos – Yr Ardd Lysiau, Pen-y-Cae, Craig-y-Nos, Abertawe,
SA9 1GL

Pris: £35 am sesiwn un awr

Os hoffech ddarganfod rhagor neu drefnu eich sesiwn gyntaf, yna cysylltwch drwy e-bost
neu’r ffurflen gyswllt.

Galwch draw, sgwrsiwch a dewch i ni gael gweld os hoffech chi ymuno â chymuned ein
gardd.


GWEITHDAI GARDDIO

Hoffech chi ddysgu sut i dyfu eich bwyd eich hun? Neu efallai hoffech ddysgu sut i hau a
meithrin eich blodau eich hun yn llwyddiannus? Methu a phenderfynu ar yr hyn y byddech
chi’n ei dyfu ac yn ei garu yn yr ardd bob mis?

Ymunwch â ni am ddetholiad o weithdai i oedolion a theuluoedd bob mis, fe’u cynhelir yn
ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Rydym yn cynnig cyrsiau tyfu bwyd, hela chwilod,
celf natur a llawer mwy.

Mae lluniaeth, chwerthin, ymlacio a dysgu bob amser yn rhan o’r profiad.


TEITHIAU CERDDED YMWYBYDDIAETH OFALGAR

Mae ein teithiau cerdded penwythnosol o fewn Parc Gwledig Craig-Y-Nos yn cynnig y
cyfle i gysylltu â chi’ch hun, y tymor a’r natur o’n cwmpas.

Byddwn yn cymryd ein hamser i eistedd, sylwi, ac ymgysylltu â’n synhwyrau a’r
amgylchedd trwy gydol y teithiau cerdded awr o hyd. Darperir dysglaid twym o de, coffi
neu de llysieuol hefyd.

Rydym yn cynnig dull ‘talu’r hyn a allwch’ ar gyfer ein teithiau cerdded, yn amrywio o £3 –
10, ac yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau’n fawr.



RHAGLENNI I YSGOLION

Darganfyddwch ragor am y rhain fan hyn.